Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 25 Ebrill 2018
Amser:
09.03 -
11.49
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4846
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Jenny Rathbone AC Jack Sargeant AC |
Tystion: |
Sarah Rees Dilwyn Roberts-Young, UCAC Jenny Griffin, Unsain |
Staff y Pwyllgor: |
Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Megan Jones (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rhianon Passmore AC.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Sarah Rees
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Dilwyn Roberts-Young, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC
· Jenny Griffin, Trefnydd Ardal, Unsain
3.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd UCAC i ddarparu'r adroddiad o'r gwaith a wnaed yn San Steffan mewn perthynas ag athrawon sy'n gweithio yn hwyrach yn eu bywydau, oherwydd newidiadau i bensiynau.
3.3 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd UCAC ac Unsain i ddarparu:
· enghreifftiau o arfer da o ran cyngor gyrfa gan gyflogwyr;
· eu barn ar effaith awtomeiddio ar rôl athrawon, gan gynnwys unrhyw werth a roddir yn y dyfodol ar agwedd ofalgar y rôl.
4.1.a Nododd y Pwyllgor nodiadau trafodaethau'r grwpiau ffocws.
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a chytunodd i ymateb.
5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.